Y Grŵp Trawsbleidiol ar
Gerddoriaeth
Dydd Mawrth 24 Hydref 2023
Yn y cnawd & ac ar-lein ar Teams, rhwng 12.00 a
13.00
Y Senedd,
Ystafell Gynadledda A, Llawr Gwaelod, Tŷ Hywel,
Caerdydd.
Cofnodion y cyfarfod
Yn bresennol: Rhianon Passmore (RA) (Cadeirydd), Rob Smith (RS), Tamasree Mukerji (TM), Anirban Mukhopadhyay (AM), Owain Arwel Hughes CBE (OAH), Aled Owens (AO), Max Pearson – Swyddfa John Griffiths AS (MP), Stephen Williams – Swyddfa Mick Antoniw AS (Stephen W), Andrew Morgan (AM), Vanessa David (VD), Simon Chalk (SC), Andrew Jones (AJ), Graham Howe (GH), Nia Williams (NW).
Yn bresennol ar Teams: Paul Carr (PC), Lisa Tregale (LT), Chris Evans (CE), Susan Wood (SW) (Clerc), Marie Pritchard (MP), Julie Farmer (JF), Peter Francombe (PF), Matthew Downes (MD), Heather Powell (HP), Abby Charles (AC), Andy Warnock (AW), Claire Jones (CJ), Emma Flatley (EF),
Jodie Underhill (JU), Sara Gibson (SG), Stephen McNally (SN), Suzanne Griffiths-Rees (SGR), Jasmine Wheeler (JW).
Eitem ar yr agenda |
Nodwyd/Trafodwyd/Cytunwyd/Camau Gweithredu |
Person(au) yn gyfrifol |
1.
|
Croeso a chyflwyniad Croesawodd RP bawb i'r cyfarfod a diolchodd iddynt am fod yn bresennol. |
|
2. |
Ymddiheuriadau |
|
Cofnodion |
SW |
|
4. |
Materion yn
Codi |
NW i bawb |
5. |
Cyflwyniad gan y panel: Owain Arwel Hughes CBE Gwnaeth RP gyflwyno Owain Arwel Hughes a’i groesawu i’r grŵp. Diolchodd iddo am ei amser a’i angerdd dros ei etifeddiaeth Gymreig a thros enw da Cymru fel ‘Gwlad y Gân’.
Diolchodd OAH i Rhianon am y cyfle i annerch y grŵp. Soniodd am bwysigrwydd cerddoriaeth, gan dynnu sylw penodol at bwysigrwydd sicrhau mynediad i offerynnau. Soniodd am ei gyfarfod â feiolinydd o ardal ddifreintiedig yn ninas Glasgow a gafodd gynnig ffidil yn yr ysgol. Blodeuodd ei dalent gyda’r offeryn hwn, a chafodd gyfle i chwarae mewn nifer o gerddorfeydd, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban. Roedd yn teimlo y byddai ei fywyd wedi troi allan yn wahanol iawn pe na bai wedi cael mynediad i offeryn cerdd. Dywedodd OAH wrth y grŵp fod yn rhaid i bawb wneud mwy o ymdrech i gymryd y celfyddydau o ddifri, gan nad yw cerddoriaeth a’r celfyddydau yn gysylltiedig â’r buddion a gawn o’r pethau hyn yn unig - maent hefyd yn cael effaith ehangach ar fywydau pobl. Ei ddymuniad yw bod myfyrwyr ac athrawon yn dychwelyd i’r ysgolion, a bod athrawon cerdd peripatetig hefyd yn dychwelyd i'n hysgolion. Rhoddodd OAH ganmoliaeth i aelodau'r grŵp am eu gwaith, ond ailadroddodd y ffaith mai yn yr ysgolion y bydd cerddoriaeth yn tyfu ac yn datblygu. Dywedodd y byddai’n gwneud unrhyw beth o fewn ei allu i helpu sicrhau bod cerddoriaeth yn ôl ar yr agenda mewn ysgolion. Agorodd Rhianon y drafodaeth, a dywedodd sawl aelod o’r grŵp eu bod yn uniaethu â’r feiolinydd ifanc, naill ai ar lefel bersonol neu yn sgil y ffaith eu bod yn ymwybodol o nifer o enghreifftiau tebyg. Gofynnodd RP a oedd unrhyw beth y gallai’r grŵp ei wneud, a dywedodd OAH nad oedd wedi cael gwahoddiad gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i wneud unrhyw beth fel arweinydd cerddorfa. Dywedodd RP wrth y grŵp y byddai camau gweithredu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd a'r cynllun cerddoriaeth newydd i Gymru, a fydd yn gynllun pwysig iawn, yn cael effaith ar y sefyllfa sy’n wynebu cerddorion yng Nghymru yn y dyfodol. CAM I’W GYMRYD: Dywedodd RP y byddai'n gofyn i gyfeillion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ymchwilio i gyfleoedd cydweithio posibl yn y dyfodol. Nododd Chris Evans hefyd fod cerddoriaeth yn eiddo i bawb, nid yn unig cerddorion proffesiynol, gan ychwanegu bod sefydliadau amatur yn hynod werthfawr gan eu bod yn gwneud cyfraniad enfawr i’w cymunedau. Gall y sefydliadau hyn gynnig achubiaeth i bobl yn gorfforol ac yn feddyliol.
|
|
8.
|
Diweddariad
ar y Cynllun Addysg Cerddoriaeth Yn ogystal, nodwyd bod partneriaethau yn faes pwysig, a bod MP wedi ysgrifennu papur am brifysgolion yng Nghymru. CAM I’W GYMRYD: MP i anfon y papur at RP, a fydd yn ei ddosbarthu ymhlith y grŵp. Mae partneriaethau'n rhan allweddol o sicrhau llwyddiant, a gwahoddodd MP holl aelodau'r grŵp i gymryd rhan a dweud eu dweud er mwyn sicrhau bod y cynllun hwn yn gweithio. Dywedodd JF y dylai cerddoriaeth fod yn un o'r pynciau blaenoriaeth o ran hyfforddi athrawon ysgolion cynradd. Soniodd MD wrth y grŵp am y bartneriaeth lwyddiannus rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a cherddorfa genedlaethol Cymru. Gan sôn am gyngerdd a aeth iddi yn ddiweddar, dywedodd MD fod 25 y cant o'r cerddorion proffesiynol a oedd yn cymryd rhan yn raddedigion o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Dywedodd RS ei fod yn credu bod y cyllid ar gyfer mudiad gwerin TRAC Cymru wedi cael ei dynnu yn ôl. Dywedodd RP y byddai'n cysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y mater, gan adrodd yn ôl i'r grŵp yn dilyn hynny. Dymunodd RP yn dda i MP, a diolchodd iddi am ei gwaith pwysig, gan gydnabod faint o waith sydd angen ei wneud o hyd. CAM I’W GYMRYD: RP i gwrdd â Chyngor Celfyddydau Cymru er mwyn gofyn a yw’r cyllid ar gyfer cerddoriaeth werin wedi’i dynnu yn ôl, ac i adrodd yn ôl i'r grŵp yn dilyn hynny. |
|
6. |
Ffair Diwydiant Cerddoriaeth Cymru Dywedodd RP wrth
y grŵp fod dyddiad dros dro wedi’i bennu, sef 20 Mawrth
2024. Gwahoddodd bawb i gymryd rhan a sicrhau ein bod yn
llenwi’r Pierhead â cherddoriaeth, ac yn dangos
pwysigrwydd cerddoriaeth ar bob ffurf i fywyd economaidd a
diwylliannol Cymru. |
RP i bawb |
7. |
Diweddariad am y Map Rhyngweithiol o Gerddoriaeth Fyw Cafodd PC ei gyflwyno gan RP, a’i wahodd i siarad am y gwaith ymchwil y mae'n ei wneud yn y diwydiant cerddoriaeth. Mae PC yn gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion yn Lerpwl, Birmingham, Newcastle, Caeredin, Rotterdam, Hamburg a Milan. Mae gwefan newydd wedi’i chreu ar gyfer y map rhyngweithiol (https://livemusicresearch.org). Mae hyn yn caniatáu i randdeiliaid ledled Cymru ddiweddaru eu gwybodaeth drwy lenwi ffurflen gyswllt. Roedd PC o’r farn ei bod bellach yn bryd dechrau datblygu a monitro hyn drwy sefydliad Cymru Greadigol. Diolchodd PC i sefydliad Cymru Greadigol am ei holl waith parthed yr adnodd cymorth hwn i Gymru. CAM I’W GYMRYD: RP i ofyn i sefydliad Cymru Greadigol a PC i sôn yn y cyfarfod nesaf am y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran y map.
Mae RP yn trefnu digwyddiad perfformio gyda cherddoriaeth gymunedol fyw, ynghyd â digwyddiad ar gyfer y diwydiant yn 2024. Mae'r gwaith o ddatblygu’r digwyddiadau hyn yn parhau, a bydd rhagor o fanylion yn dilyn. CAM I’W GYMRYD: RP i roi diweddariad am y digwyddiadau cerddoriaeth pan gânt eu cadarnhau. |
|
8. |
Diwrnod Creu
Cerddoriaeth |
|
9. |
Unrhyw fater
arall |
|